Y Pwyllgor Busnes |
Lleoliad: |
Swyddfa’r Llywydd, 4ydd llawr - Tŷ Hywel |
|
|
||
Dyddiad: |
Dydd Mawrth, 12 Mai 2015 |
|
|||
Amser: |
08.30 - 08.34 |
|
|||
|
|||||
|
|||||
Cofnodion: Preifat |
|||||
|
|
|
|||
Aelodau’r Pwyllgor: |
|
Y Fonesig Rosemary Butler (Cadeirydd) Paul Davies Jane Hutt Elin Jones Aled Roberts |
|||
|
|
||||
|
|
|
|||
Staff y Pwyllgor: |
|
Aled Elwyn Jones (Clerc)
|
|||
|
|
||||
|
|
|
|||
Eraill yn bresennol: |
|
David Melding AC, Y Dirprwy Lywydd Christopher Warner, Pennaeth Gwasanaeth y Pwyllgorau Polisi a Deddfwriaeth Craig Stephenson, Cyfarwyddwr Dros Dro Gwasanaethau’r Comisiwn Peter Greening, Llywodraeth Cymru
|
|||
|
|
||||
1 Ymddiheuriadau a chyhoeddiadau
2 Cofnodion y cyfarfod blaenorol
Nododd y Pwyllgor y cofnodion i’w cyhoeddi.
3 Trefn Busnes
3.1 Busnes yr wythnos hon
Cafodd y Pwyllgor y wybodaeth ddiweddaraf gan y Gweinidog Cyllid a Busnes y Llywodraeth am y newidiadau i Fusnes y Llywodraeth ddydd Mawrth.
Bydd y Cyfnod Pleidleisio ddydd Mawrth ar ôl yr eitem olaf o fusnes. Cytunodd y Pwyllgor Busnes y dylid cynnal y Cyfnod Pleidleisio cyn y Ddadl Fer ddydd Mercher.
3.2 Amserlen Busnes y Llywodraeth ar gyfer y tair wythnos nesaf
Nododd y Pwyllgor Busnes Amserlen Busnes y Llywodraeth ar gyfer y tair wythnos nesaf.
3.3 Amserlen Busnes y Cynulliad ar gyfer y tair wythnos nesaf
Penderfynodd y Pwyllgor Busnes ar drefn y busnes a chytunodd i amserlennu’r eitemau a ganlyn:
Dydd Mercher 10 Mehefin 2015 -
· Amser a neilltuwyd i’r Ceidwadwyr Cymreig (60 munud)
· Amser a neilltuwyd i Blaid Cymru (60 munud)
· Amser a neilltuwyd i Ddemocratiaid Rhyddfrydol Cymru (60 munud)
Unrhyw Fater Arall
Dywedodd y Llywydd wrth y Rheolwyr Busnes fod Antoinette Sandbach wedi rhoi hysbysiad ysgrifenedig o'i hymddiswyddiad fel Aelod Cynulliad yn dilyn ei hethol yn Aelod Seneddol dros Eddisbury.
Cadarnhaodd y Llywydd hefyd fod y Swyddog Canlyniadau ar gyfer rhanbarth Gogledd Cymru wedi cael gwybod am yr ymddiswyddiad, a'n bod yn parhau i aros am hysbysiad o'r Aelod newydd ar gyfer y rhanbarth hwnnw.